‘Mae’n Gwneud Synnwyr – Mis Ymwybyddiaeth Nam ar y Synhwyrau’
Mae gennym bum synnwyr: clywed, gweld, cyffwrdd, blasu ac arogli. Os bydd gan rywun nam ar y synhwyrau, bydd wedi colli un neu sawl synnwyr. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â’r golwg a’r clyw, ac mae’n bosibl colli’r pum synnwyr, er bod hyn yn brin.
Gall rhywun gael nam ar y synhwyrau o’r adeg y caiff ei eni neu gall y nam ddatblygu pan fydd yn hŷn, yn dilyn salwch neu ddamwain neu wrth heneiddio. Gall datblygu nam ar y synhwyrau yn hwyrach mewn bywyd achosi i unigolyn wneud cymariaethau rhwng sut roedd bywyd yn arfer bod, a gall hyn arwain at orbryder ac iselder, neu deimladau o anobaith a hunan-barch isel wrth ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd. Efallai na fydd pobl yn gwybod sut i ryngweithio â rhywun sydd â nam ar y synhwyrau - efallai y bydd teulu, ffrindiau, cydweithwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn teimlo’n lletchwith, yn ansicr ynghylch sut i siarad ag ef a faint o gymorth y dylai ei gynnig.
Gyda’r pandemig cyfredol, mae bywyd wedi bod yn heriol i bawb – rydym wedi cael ein bombardio â gwybodaeth, sydd wedi gwneud llawer ohonom yn orbryderus. I rywun sydd â nam ar y synhwyrau, gall hyn fod yn llethol, yn enwedig os nad oes cyfathrebu clir neu os nad yw’r wybodaeth ar gael mewn fformat hygyrch – gall fod yn adeg frawychus a dryslyd, yn enwedig os yw’r unigolyn yn teimlo nad yw ei anghenion yn cael eu diwallu.
Mae’r ymgyrch ‘Mae’n Gwneud Synnwyr’, a lansiwyd gan Vaughan Gething yn 2015, yn nodi Mis Ymwybyddiaeth Nam ar y Synhwyrau. Fe’i datblygwyd er mwyn hybu gofal iechyd hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau, trwy sicrhau bod anghenion cyfathrebu’n cael eu cydnabod a’u diwallu ar draws GIG Cymru.
Y mis hwn, byddwn yn rhedeg ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac i amlygu arferion da er mwyn mynd i’r afael ag anghenion pobl a chanddynt nam ar y synhwyrau. Dyma sut y gallwch chi gymryd rhan:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch Rebecca.Fogarty@wales.nhs.uk
‘It Makes Sense – Sensory Loss Awareness Month’
We have five senses: hearing, sight, touch, taste and smell. Sensory loss is when one or multiple senses are lost. The most common are to do with sight and hearing, and although rare it may be possible to have a loss of all five senses.
Sensory loss may occur from birth or develop later in life through illness, an accident or aging. Developing sensory loss later in life may cause an individual to make comparisons to what life was like before, which may result in anxiety and depression, or feelings of hopelessness and low self-esteem when dealing with day to day activities. People may not know how to interact with someone who has sensory loss – friends, family, colleagues and health care professionals may feel awkward, unsure how to speak to them and how much help they should offer.
With the current pandemic life has been challenging for everyone – we have been bombarded with information which has made many of us anxious. For someone with sensory loss this can be overwhelming, especially so if there is unclear communication or if information is not available in an accessible format – it can be a frightening and confusing time, particularly if the person feels their needs are not being met.
Launched in 2015 by Vaughan Gething, the ‘It Makes Sense’ campaign marks Sensory Loss Awareness Month. It was developed to promote accessible healthcare for people with sensory loss, by ensuring that communication needs are recognised and met across NHS Wales.
This month, NHS Wales will be running a campaign to raise awareness and highlighting good practice to address the needs of people with sensory loss. Here’s how you can get involved:
IIf you have any queries, please contact Rebecca.Fogarty@wales.nhs.uk