Skip to main content

A Message from Quentin

Neges gan Quentin

Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’r holl staff am eu hymdrechion. Rydym wedi gwneud swm rhyfeddol o waith i ddiogelu iechyd pobl Cymru yn ystod COVID-19 ac rydym wedi cyrraedd ble rydym trwy waith caled a phenderfyniad ein staff. Rwy’n hynod falch o fod yn un o’r cyfarwyddwyr strategol ac i weld popeth yr ydym yn ei wneud i gadw Cymru’n ddiogel. 

Roeddwn am roi diweddariad i chi ar asesiad hanner ffordd ail gam ein cynllun ymateb, y datblygon ni gyntaf ym mis Mai yn dilyn cyhoeddi’r Cynllun Ymateb Diogelu Iechyd Cenedlaethol a chyhoeddi cynllun Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru. Cychwynnodd yr ail gam ym mis Mehefin ac mae’n rhedeg tan ddiwedd mis Awst. Ynghyd â Sally Attwood a Nathan Jones o’n Tîm Cynllunio Strategol, cwrddais ag arweinwyr o wahanol ffrydiau gwaith sy’n rhan o’n hymateb i COVID-19. I’r rhai nad ydynt yn ymwybodol, y ffrydiau gwaith hyn yw:

  • Olrhain Cysylltiadau a Rheoli Achos
  • Gwyliadwriaeth Poblogaeth
  • Samplu a Phrofi
  • Cyfathrebu
  • Digidol
  • Gweithlu
  • Dysgu a gwybodaeth rhyngwladol

(Mae neges Tracey o fis Mai yn amlinellu ein cyfraniad ac yn cynnwys dolenni i gynllun Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru a’n cynllun ymateb ni.)

Roedd y cyfarfodydd yn gyfle i weld sut roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen yn erbyn y cynlluniau ac i nodi unrhyw themâu cyffredin a darparu rhai ystyriaethau ar gyfer y ffordd ymlaen

Roedd y broses hon yn gyfle i gymryd cam yn ôl ac edrych ar ymateb cyflym y mae’r sefydliad hwn wedi’i gyflawni ers i COVID-19 ddod i’r amlwg. Rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am fygythiad posibl COVID-19 am y tro cyntaf ym mis Ionawr ac ers hynny mae staff ar draws y sefydliad wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi’r ymateb gan addasu i weithio’n wahanol ac ymdrin â’r heriau personol gyflwynodd y cyfyngiadau symud.

Mae’r asesiadau hanner ffordd wedi amlygu rhai meysydd i’w hystyried y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hwy wrth i ni baratoi ar gyfer cam nesaf y pandemig - Sut mae’r ffrydiau gwaith yn gweithio’n well gyda’i gilydd? Ydy ein swyddogaethau galluogi yn cyfrannu yn y ffordd gywir i gefnogi’r timau orau? Sut ydym yn ymgysylltu’n fwy hwylus â thîm Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru? Sut ydym ni’n cydbwyso gofynion adnoddau ymateb ac ailgychwyn?

Dyma rai o'r sylwadau sy'n dod drwodd ac roeddwn i eisiau eu rhannu gyda chi gan y bydd angen eich cefnogaeth arnom i ddatblygu'r system ar gyfer ymateb ymhellach. Mae’r system yn seiliedig ar bobl ac mae’n bwysig ein bod yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn deall yr heriau sy’n ein hwynebu wrth i ni symud i gam nesaf yr ymateb a pharatoi ar gyfer ail don posibl o achosion.

Quentin.

 

English Story:

A message from Quentin

Firstly, I would like to say a really big thank you to all staff for their efforts. We have done a phenomenal amount of work to protect the health of the people of Wales during COVID-19 and we’ve got to where we are simply through the sheer hard work and determination of our staff. I am immensely proud to be one of the strategic directors and see everything we are doing to keep Wales safe. 

I wanted to update you on the mid stage assessment of the second stage of our response plan, which we first developed in May following the publication of the National Health Protection Response Plan and the publication of the Welsh Government’s Test Trace and Protect Plan. The second stage commenced in June and runs to the end of August. Along with Sally Attwood and Nathan Jones from our Strategic Planning Team, I met with leads from the different work streams that make up our response to COVID-19. For those who are not aware these work streams are:

  • Contact Tracing and Case Management
  • Population Surveillance
  • Sampling and Testing
  • Communications
  • Digital
  • Workforce
  • International learning and intelligence

(Tracey’s message from May outlines our involvement and includes links to the Welsh Government’s Test, Trace and Protect (TTP) plan and our response plan.)

The meetings were a check in to see how work was progressing against the plans and identify any common themes and provide some considerations for the way forward.

This process was a chance to take a step back and reflect on the rapid response this organisation has conducted since COVID-19 emerged. I first updated the Board on the potential threat of COVID-19 in January and since then staff from across the organisation have worked tirelessly to support the response all the while adapting to working differently and dealing with the personal challenges that the lockdown presented.

The mid stage assessments have highlighted some areas for consideration that we must address as we prepare for the next phase of the pandemic – How do the work streams work better together? Are our enabling functions involved in the right way to best support the teams? How do we connect more smoothly with Welsh Government’s TTP Team? How do we balance the resource requirements of response and reactivation?

These are just some of the thoughts coming through and I wanted to share them with you as we will need your support to develop the system for response further. The system is people based and it is important that we keep you connected and understand the challenges we are facing as we move into the next stage of response and prepare for a potential second wave of cases.

Quentin.