Skip to main content

Placing Health Equity at the heart of Coronavirus recovery for building a sustainable future for Wales

Published: 18 March 2021

Click here for the English story

 

Rhoi Tegwch Iechyd wrth wraidd adfer ar ôl Coronafeirws ar gyfer adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru 

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (18 Mawrth 2021) yn galw am fwy o bwyslais ar degwch iechyd – sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach – mewn ymateb i'r Coronafeirws ac adfer ohono.  

Mae’r adroddiad wedi'i baratoi gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n rhan o fenter fyd-eang – a arweinir ar y cyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – gan roi Cymru ar flaen y gad fel gwlad sy'n hyrwyddo, yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag annhegwch ym maes iechyd.  

Mae'r adroddiad agoriadol hwn yn canolbwyntio ar effeithiau ehangach y pandemig, nad ydynt yn amlwg ar unwaith, ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:  

  • Tlodi, amddifadedd ac allgáu cymdeithasol 

  • Diweithdra, addysg a'r gagendor digidol  

  • Amodau tai a gwaith niweidiol, a thrais a throseddu 

Mae hefyd yn tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae coronafeirws wedi'i chael, ac yn ei chael, ar grwpiau penodol fel plant a phobl ifanc, menywod, gweithwyr allweddol a lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, mae pobl ifanc yn nodi eu bod yn poeni am golli eu swydd neu fethu dod o hyd i swydd; ac mae'r gagendor addysgol wedi parhau a chynyddu, yn enwedig i'r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.  

Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pandemig y Coronafeirws yn arwain at ganlyniadau sylweddol o ran iechyd, llesiant ac economaidd-gymdeithasol. Mae'n cael ei deimlo'n anghyfartal ar draws ein cymdeithas gan fygwth y rhai mwyaf anghenus.  

“Fodd bynnag, yng nghanol yr argyfwng, mae cyfle newydd wedi codi. Mae iechyd cyhoeddus wedi dod yn ffocws byd-eang, gan gryfhau'r achos dros fuddsoddi yn llesiant pobl - atal clefydau'n gynnar, diogelu a hybu iechyd, gwella cydnerthedd a thegwch, cefnogi'r mwyaf agored i niwed a grymuso ein cymunedau.” 

“Gan weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd, Cymru yw'r wlad gyntaf i fod yn ddylanwadwr byd-eang ac yn safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd. 

“Wedi'i gyflwyno drwy ein Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, mae'r fenter Adroddiad ar Statws Tegwch Iechyd Cymru yn rhoi llwyfan ar gyfer cyfosod a rhannu tystiolaeth a gwybodaeth, datblygu offer ymarferol a helpu i gau'r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt. 

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwella ein dealltwriaeth ar y cyd o effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pandemig y Coronafeirws ac yn cefnogi ymateb cynaliadwy a theg ac adfer yng Nghymru.” 

Mae’r adroddiad yn rhoi darlun o'r niwed amrywiol, yn ogystal â chyfleoedd sy'n deillio o bandemig y Coronafeirws a mesurau cyfyngol cysylltiedig, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau anghyfartal ar draws gwahanol sectorau, meysydd bywyd a grwpiau poblogaeth; a sut y gellid mynd i'r afael â'r rhain.  

Er enghraifft, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at dechnoleg ddigidol fel modd i bobl allu cefnogi a chynnal eu llesiant meddyliol. Ystyrir bod technoleg ddigidol yn hanfodol wrth ysgogi pobl ifanc i liniaru effeithiau'r pandemig a chryfhau cydnerthedd unigol a chymdeithasol yn erbyn ergydion a thrychinebau yn y dyfodol.  

Fodd bynnag, mae gagendor digidol yn bodoli, o ran mynediad anghyfartal at dechnoleg ddigidol, neu arbenigedd ohoni, sy'n atal rhai unigolion rhag gweithio gartref. Mae hyn wedi cael effaith anuniongyrchol fawr ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys ‘allgáu digidol’ y rhai o gefndir difreintiedig, yn ogystal â phobl hŷn a grwpiau ymylol. 

Mae data o Gymru yn dangos bod: 

  • Mwy nag un o bob 10 o bobl (11 y cant) wedi'u cofnodi fel rhai nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd (‘wedi'u hallgáu'n ddigidol’)  

  • Nododd bron un o bob 20 (19 y cant) yng Nghymru nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau digidol sylfaenol, sy'n sylweddol uwch na gweddill y DU 

  • Nid oedd gan 60 y cant o oedolion wybodaeth a sgiliau digidol sylfaenol pan achosodd y pandemig i weithleoedd ac ysgolion gau 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan: "Yn ystod y pandemig rydym wedi cyflwyno nifer o fentrau newydd i fynd i'r afael â'r gagendor digidol a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf.  

“Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn i bobl hŷn a'n hymgyrch Edrych ar ôl ein gilydd yn ddiogel sy'n rhoi cyngor ar sut i gadw mewn cysylltiad ac atal teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd.  

"Wrth symud ymlaen byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod gan bawb fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, p'un a ydynt yn ifanc neu'n hen, a lleihau nifer y bobl sy'n teimlo eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol. 

Yn ystod y pandemig: 

  • Darparodd Llywodraeth Cymru £3 miliwn ychwanegol i ddarparu gliniaduron a rhyngrwyd symudol ar gyfer disgyblion sydd ‘wedi'u hallgáu'n ddigidol’. Defnyddiwyd cyllid ar gyfer darparu 10,848 o ddyfeisiau WiFi a 9,717 o drwyddedau meddalwedd 

  • Darparodd Llywodraeth Cymru 1100 o ddyfeisiau i gartrefi gofal i alluogi apwyntiadau rhithwir y GIG a helpu teuluoedd i gadw mewn cysylltiad 

  • Mae cynllun cydnerthedd COVID-19 Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector ôl-16 yn amlinellu strategaeth i gefnogi dysgwyr, cymunedau a chyflogwyr yn ystod yr achos o COVID-19 ac ar ôl hynny 

  • Mae Cymunedau Digidol Cymru yn hyfforddi staff rheng flaen a gwirfoddolwyr i sicrhau y gallant gefnogi pobl i gadw mewn cysylltiad yn ystod y pandemig ac atal teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd." 

Mae’r adroddiad, ‘Rhoi tegwch iechyd wrth wraidd yr ymateb cynaliadwy i COVID-19 ac adfer ohono: Adeiladu bywydau llewyrchus i bawb yng Nghymru’ yn rhoi darlun manwl o'r effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach y mae Coronafeirws wedi'u cael ar bobl yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar leihau'r bwlch iechyd cynyddol. Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu polisïau i wella iechyd a llesiant, ac eirioli dros hynny a chyflawni bywydau llewyrchus iach i bawb yng Nghymru a thu hwnt.  

 

Placing Health Equity at the heart of Coronavirus recovery for building a sustainable future for Wales

A new report published today (18 March 2021) calls for a greater emphasis on health equity – ensuring everyone has an equal opportunity to be healthy – in the response to, and recovery from, Coronavirus.

The report is produced by the World Health Organization Collaborating Centre at Public Health Wales. It is part of a global initiative – led jointly by the World Health Organization, Welsh Government and Public Health Wales – placing Wales at the forefront as a champion country, committed to tackling health inequities.

This inaugural report focuses on the wider, less immediately visible, effects of the pandemic on a range of issues including:

  • Poverty, deprivation and social exclusion
  • Unemployment, education and the digital divide
  • Harmful housing and working conditions, and violence and crime

It also highlights the disproportionate impact that coronavirus has had, and is having, on specific groups such as children and young people, women, key workers and ethnic minorities. For example, young people report being worried about losing their job or not being able to find one; and the educational divide has persisted and increased, particularly for the most deprived in our society.

Dr Tracey Cooper, Chief Executive of Public Health Wales, said: “The Coronavirus pandemic is having significant health, well-being and socio-economic consequences. It is felt unequally across our society threatening those in most need.

“However, amidst the crisis, a new window of opportunity has opened. Public health has become a global focus, strengthening the case for investing in people’s well-being - preventing disease early, protecting and promoting health, enhancing resilience and equity, supporting the most vulnerable and empowering our communities.”

“Working with the World Health Organization, Wales is the first country to become a global influencer and live innovation site for health equity.

“Delivered through our WHO Collaborating Centre on Investment for Health and Well-being, this Wales Health Equity Status Report initiative provides a platform for synthesising and sharing evidence and intelligence, developing practical tools and helping to close the health gap in Wales and beyond.

“We hope this will improve our collective understanding of the social, economic and environmental impacts of the Coronavirus pandemic and support a sustainable and fair response and recovery in Wales.”

The report provides a picture of the diverse harms, as well as opportunities resulting from the Coronavirus pandemic and related restrictive measures, focusing on the unequal consequences across different sectors, areas of life and population groups; and how these could be addressed.

For example, the report highlights digital technology as a means by which people can support and maintain their mental well-being. Digital technology is seen as critical in mobilising young people to mitigate the effects of the pandemic and strengthening individual and societal resilience against future shocks and disasters.

However, a digital divide exists, in terms of unequal access to, or expertise with, digital technology, which prevents some individuals from working from home. This has had a major indirect impact on children and young people, including a ‘digital exclusion’ of those from deprived backgrounds, as well as of older people and marginalised groups.

Data from Wales shows that:

  • More than one in 10 people (11 per cent) recorded as internet non-users (‘digitally excluded’)
  • Nearly one in 20 (19 per cent) in Wales reported having no basic digital skills, considerably higher than the rest of the UK
  • 60 per cent of adults lacked basic digital knowledge and skills when the pandemic caused workplaces and schools to close

Minister for Mental Health, Wellbeing and Welsh Language, Eluned Morgan, said: "During the pandemic we have introduced a number of new initiatives to tackle the digital divide and support those most affected.

“These include a national telephone befriending service for older people and our Looking Out For Each Other Safely campaign which provides advice on how to stay in contact and prevent feelings of loneliness and isolation.

"Going forward we will strive to ensure everyone has access to the services they need, whether they are young or old, and reduce the number of people who feel digitally excluded.

During the pandemic:

  • The Welsh Government made an additional £3 million available to provide laptops and mobile internet for ‘digitally excluded’ pupils. Funding was used for the provision of 10,848 WiFi devices and 9,717 software licenses
  • The Welsh Government provided 1100 devices to care homes to enable virtual NHS appointments and help families keep in touch
  • The Welsh Government COVID-19 resilience plan for the post-16 sector outlines a strategy to support learners, communities and employers during and beyond the COVID-19 outbreak
  • Digital Communities Wales is training frontline staff and volunteers to ensure they can support people to stay in touch during the pandemic and prevent feelings of loneliness and isolation."

The report, ‘Placing health equity at the heart of the COVID-19 sustainable response and recovery: Building prosperous lives for all in Wales’ provides a detailed picture of the wider social, economic and environmental impacts that Coronavirus has had on people in Wales, focusing on reducing the widening health gap. The WHO Collaborating Centre at Public Health Wales supports the development of, and advocates for, policies to improve health and well-being and achieve healthy prosperous lives for all in Wales and beyond.