Wrth i ni nesáu at derfyn amser 31 Rhagfyr, roedd y tîm traws-sefydliad sy'n rheoli'r broses o gynllunio Brexit am rannu'r diweddaraf am y cynlluniau sydd gennym yn eu lle ar gyfer ymadawiad disgwyliedig y DU o'r UE yn dilyn diwedd y cyfnod pontio.
Statws preswylydd sefydlog
Bydd y tîm Pobl a Datblygu Sefydliadol yn parhau i roi cymorth a chyngor i'n cydweithwyr yn yr UE. Mae tudalennau staff Brexit wedi'u diweddaru yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth cynghori ar fewnfudo'r UE, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn parhau ar agor a gallwch wneud cais nawr os ydych yn gymwys, er bod y ffenestr amser sydd ar ôl i chi weithredu yn cau'n gyflym: os na ellir cytuno ar gytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r UE yna'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 31 Rhagfyr 2020.
Fodd bynnag, os cyrhaeddir cytundeb yna bydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn ymestyn i 30 Mehefin 2021.
Ein neges yw gweithredwch nawr os ydych yn bwriadu gwneud hynny. Mae'r tudalennau staff Brexit yn cynnwys yr holl ddolenni a gwybodaeth gefndir y bydd eu hangen arnoch.
Gweithrediadau busnes
Rydym hefyd am rannu gyda chi sut rydym yn bwriadu sicrhau y gall ein gwasanaethau barhau i weithredu fel arfer.
Fel sefydliad, rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o adael heb gytundeb ers peth amser. Mae'r gwaith wedi cynnwys cynyddu hyfforddiant rheoli digwyddiadau tactegol yn sylweddol, yn ogystal ag adolygu ein cynlluniau parhad busnes, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar wasanaethau hanfodol.
Rydym hefyd wedi bod yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr i gynnal ein cynlluniau i baratoi ar gyfer Brexit.
Dywedodd Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus a'r Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer Paratoadau Brexit: “Rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod ein gwasanaethau allweddol yn parhau i redeg wrth i ni ymateb i ofynion Brexit a phandemig COVID-19.
“Bydd ein gwasanaethau sgrinio yn cael eu darparu fel arfer. Mae ein cyflenwadau o frechlynnau, gan gynnwys brechlynnau'r ffliw, MMR, a llid yr ymennydd, hefyd yn ddigonol.
“Er mwyn lliniaru unrhyw ostyngiad diangen yn nifer y bobl sy'n manteisio ar y gwasanaeth yn deillio o ganlyniad i ddryswch yn ymwneud â Brexit heb gytundeb, ein neges i aelodau o'r cyhoedd fydd i fynychu apwyntiadau fel arfer.
“Beth bynnag fo Brexit a'n hymateb parhaus i COVID-19, ein nod nawr ac ar ôl 31 Rhagfyr yw cyflawni dyfodol iachach i Gymru.”
Gwyddom y gall fod yn gyfnod cythryblus i'r holl staff. Os oes gennych unrhyw bryderon am ein hymateb Brexit, codwch hyn gyda'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf, neu cysylltwch â Deborah Murray, Uwch-reolwr Prosiect. Ar gyfer unrhyw bryderon eraill, mae Pobl a Datblygu Sefydliadol ar gael i ddarparu cymorth.
As we approach the 31 December deadline, the cross-organisation team managing the Brexit planning process wanted to share an update on the plans we have in place ahead of the UK’s scheduled departure from the EU following the end of the transition period.
Settled status
The People and Organisational Development team continue to provide support and advice to our EU colleagues. The updated Brexit staff pages includes information on the EU immigration advice service, commissioned by Welsh Government.
The EU Settlement Scheme remains open and you can apply now if you’re eligible, although the time window left for you to act is rapidly closing: if no deal can be agreed between the UK Government and EU then the deadline for applications becomes 31 December 2020.
However, if a deal is reached then the deadline for applications will extend to 30 June 2021.
Our message is to please act now if you plan to do so. The Brexit staff pages contain all the links and background information you will need.
Business operations
We also want to share with you how we’re planning to ensure our services can continue to operate as usual.
As an organisation, we’ve been preparing for the possibility of a no-deal departure for some time. Work has included a significant ramping up of tactical incident management training, as well as reviewing our business continuity plans, ensuring a focus on critical services.
We have also been working in close collaboration with the Welsh Government and Public Health England to maintain our Brexit preparedness.
Dr Quentin Sandifer, Executive Director for Public Health Services and Senior Responsible Owner for Brexit Preparedness, said: “We have been working to ensure our key services remain running as we respond to the demands of Brexit and the COVID-19 pandemic.
“Our screening services will be delivered as usual. Our supplies of vaccines, including the flu, MMR, and Meningitis vaccines, are also sufficient.
“To mitigate any unwanted drop-off in service take-up resulting from confusion relating to a no-deal Brexit, our message for members of the public will be to attend appointments as normal.
“Irrespective of Brexit and our ongoing COVID-19 response, our aim now and beyond 31 December remains to achieve a healthier future for Wales.”
We know that it can be an unsettling time for all staff. If you have any concerns about our Brexit response, please raise this with your line manager in the first instance, or contact Deborah Murray, Senior Project Manager. For any other concerns, People and OD are available to provide support.