Cyhoeddwyd: 26 Mawrth 2026
Mae ystadegau swyddogol a gyhoeddwyd gan Uned Gwybodaeth ac Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod goroesiad canser am flwyddyn wedi adfer i lefelau cyn y pandemig erbyn 2022, ar ôl iddo ostwng pedwar pwynt canran rhwng 2019 a 2020.
Mae’r adroddiad diweddaraf Goroesi Canser yng Nghymru, 2002-2022 yn dangos fod 75 y cant wedi goroesi blwyddyn ar ôl cael y diagnosis a bod 60 y cant wedi goroesi pum mlynedd ar ôl cael y diagnosis, ar ôl ystyried achosion marwolaeth eraill, ar gyfer pobl a gafodd ddiagnosis o ganser yng Nghymru yn ystod 2018 i 2022.
Mae hyn yn cynrychioli parhad o'r sefydlogi yn nhuedd goroesi canser a welwyd yn y cyfnod 2015-19, yn dilyn gwelliant cyson yn y cyfraddau goroesi o ddechrau'r 2000au.
Mae'r adroddiad yn archwilio data ar bob math o ganser ar wahân i ganser y croen nad yw'n felanoma, ac mae hefyd yn dangos effaith amddifadedd ar oroesi canser. Mae’r data'n dangos bod goroesi canser yn gwaethygu wrth i amddifadedd gynyddu. Roedd bwlch o 12.2 pwynt canran mewn goroesiad pum mlynedd rhwng yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf a'r amddifadedd lleiaf yng Nghymru yn ystod y cyfnod 2018-2022.
Canser y coluddyn oedd â'r bwlch goroesi canser ehangaf yn ôl amddifadedd ymysg y canserau mwyaf cyffredin. Roedd y bwlch wedi lleihau hyd at y cyfnod 2017-2021, ond ehangodd eto wedi hynny. Mae'n ymddangos bod y bwlch yn cael ei achosi gan well cyfraddau goroesi pum mlynedd yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf, tra nad oedd llawer o newid yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf.
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn dangos manylion goroesi yn ôl cam y diagnosis yn ôl amddifadedd ardal am y tro cyntaf. Roedd goroesi pum mlynedd canserau a gafodd ddiagnosis yn hwyr (cam tri a phedwar) yn 41.4 y cant yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf, a 31.5 y cant yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf. Fodd bynnag, roedd y patrwm yn amrywio rhwng gwahanol fathau o ganser. Ar gyfer canserau'r coluddyn a'r ysgyfaint, mae rhai mesurau goroesi yn dangos bod bylchau sylweddol yn ôl amddifadedd o ran cael diagnosis cam hwyr, ond nid cam cynnar. Ond nid oes unrhyw berthynas glir rhwng goroesi yn ôl cam adeg y diagnosis ac amddifadedd ardal ar gyfer canser y prostad na chanser fron ymysg merched.
Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn awgrymu y gallai'r tarfu a fu ar y rhaglenni sgrinio, atgyfeiriadau gan feddygon teulu a phrofion diagnosteg yn ystod y pandemig fod wedi effeithio’n wahanol ar y cam y rhoddwyd diagnosis ar draws grwpiau amddifadedd yn ôl ardal.
Dywedodd yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’n galonogol gweld bod goroesi canser am flwyddyn wedi’i adfer i’r lefelau cyn y pandemig, sef tua 75 y cant. Er hynny, mae cyfartaleddau’n awgrymu bod goroesi canser am flwyddyn a phum mlynedd erbyn 2022, fwy neu lai yr un fath ag yr oedd yng nghanol y degawd diwethaf. Roedd y bylchau hirdymor o ran goroesiad pum mlynedd rhwng ardaloedd ag amddifadedd mwyaf a lleiaf Cymru heb newid i raddau helaeth dros y degawd diwethaf, yna gwnaethant ehangu ar ôl y pandemig.
“Mae cael diagnosis cynnar o ganser yn cynyddu’r siawns o oroesi canser. Mae'n bwysig cysylltu â’ch meddyg teulu ar unwaith os ydych chi'n poeni am unrhyw symptomau, fel colli pwysau heb geisio gwneud hynny, gwaed yn eich pŵ, peswch newydd nad yw’n mynd, neu lwmp yn eich bron neu rywle arall ar eich corff nad ydych chi'n teimlo’n fodlon yn eich gylch, er enghraifft. Drwy wneud hynny, gallwch gael diagnosis neu dawelwch meddwl yn gynt a dechrau triniaeth a all fod yn effeithiol.”
“Mae sgrinio yn ffordd effeithiol o ganfod canser yn gynnar cyn i symptomau ymddangos, ar gyfer rhai oedrannau. Mae’n galluogi dechrau triniaeth cyn gynted â phosibl. Anogaf bobl i fanteisio ar gynigion profion sgrinio Bron Brawf Cymru, Sgrinio Coluddion Cymru, a Sgrinio Serfigol Cymru i sicrhau y cyfle gorau posibl i oroesi i oroesi canser. Mae sgrinio'r coluddyn a sgrinio serfigol hefyd yn atal canser cyn iddo ddatblygu. Yn ogystal â hyn, gellir atal rhai mathau o ganser fel canser serfigol (ceg y groth), a rhai mathau o ganser y geg a'r gwddf gyda'r brechiad HPV, a roddir fel arfer ym mlwyddyn wyth yr ysgol.
“Rydym yn gwybod y gellir atal hyd at bedwar o bob deg o ganserau, trwy wneud newidiadau fel rhoi’r gorau i ysmygu, cynnal pwysau iach a lleihau faint o alcohol a yfir. Mae nifer o wasanaethau cymorth am ddim ar gael yng Nghymru i helpu pobl i wneud y newidiadau hynny, fel Helpa Fi i Stopio a Pwysau Iach, Byw’n Iach